Mae ein gwasanaethau cwnsela yn helpu unigolion sydd wedi profi cam-drin domestig. Mae'n helpu i sicrhau newid effeithiol yn eu bywydau a gwella eu lles. Gallwch hunangyfeirio ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Mae ein gwasanaeth cwnsela arbenigol ar gam-drin domestig yn cael ei redeg drwy ein Swyddfa E-FIP yn Llanelli. Gall y cwnselwyr gynnig cymysgedd o arddulliau, gan gynnwys CBT. Gallwch gael eich cyfeirio at y rhestr aros drwy gysylltu â ni i ofyn am ffurflen atgyfeirio neu drwy atgyfeiriad gan wasanaeth cymorth arall.