WEB (Menywod sy'n Archwilio Busnes)

Mae WEB wedi'i gynllunio i ysbrydoli menywod i sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae WEB yn cynnig cymorth pwrpasol, wedi'i ysgrifennu'n benodol gan Threshold ar gyfer darpariaeth i fenywod yn unig, wedi'i hategu gan ddau gymhwyster Agored Cymru.

Mae WEB wedi'i gynllunio i ysbrydoli pob menyw i sefydlu eu busnesau eu hunain, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu rhwystrau i hunangyflogaeth. Mae WEB yn rhaglen gymorth ymarferol, bwrpasol, wedi'i hysgrifennu'n benodol gan Threshold ar gyfer darpariaeth i fenywod yn unig, wedi'i hategu gan ddau gymhwyster Agored Cymru ac sydd ar gael ar ystod o lefelau academaidd.

Mae hyfforddiant entrepreneuriaeth WEB yn galluogi menywod i archwilio opsiynau hunangyflogaeth; cymryd rhan mewn digwyddiad busnes bach; ennill sgiliau newydd a gwella hunanhyder, cymhelliant a sgiliau gweithio mewn tîm.

Bydd menywod yn cael cyfle i ennill dau gymhwyster Agored Cymru ac un achrediad mewn sgiliau entrepreneuraidd a busnes. Mae'r rhain ar gael ar amrywiaeth o lefelau.

Cefnogir menywod sydd â dyheadau i sefydlu eu busnes eu hunain gyda rhaglen, sy'n ymarferol ac sy'n cynnig cyfle unigryw i fenywod roi cynnig ar werthu eu cynnyrch neu eu gwasanaeth.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth gefndirol i fenywod redeg busnes ac i agor drysau newydd drwy hunangyflogaeth, i ennill cymwysterau ond i wneud hynny mewn amgylchedd ymarferol a hwyliog.

Cynhelir y cwrs un diwrnod yr wythnos dros 8 wythnos ac mae'n cynnwys adnoddau dysgu ar-lein.

Rhannwch y dudalen hon: