Pwy allai brofi trais domestig?

Gall unrhyw un brofi trais domestig. Mae trais domestig yn digwydd ar draws pob grŵp mewn cymdeithas, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, hil, crefydd, rhywioldeb, cyfoeth neu ddaearyddiaeth. Menywod a phlant yw'r rhan fwyaf o ddioddefwyr er bod ymchwil yn amlygu mynychder a chyd-destun dynion sy'n dioddef trais domestig. Dengys ymchwil ac ystadegau, gan gynnwys ystadegau MARAC, fod tua 90% o'r achosion a gofnodwyd yn cael eu cyflawni gan ddynion yn erbyn menywod. Amcangyfrifir y bydd un o bob pedair menyw yn dioddef trais domestig ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae'r Llinell Gymorth 24 Awr – Byw Heb Ofn yma i helpu unrhyw un y mae trais domestig yn effeithio arno: 0808 80 10 800

Rhannwch y dudalen hon: