Mae'r MARAC yn gyfarfod sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr lle trafodir achosion risg uchaf o gam-drin domestig a chydymennir gwybodaeth rhwng cyfiawnder troseddol, iechyd, amddiffyn plant, ymarferwyr tai, Cymorth i Fenywod yn ogystal ag arbenigwyr eraill o'r sectorau statudol a gwirfoddol. Mae MARAC yn sicrhau bod dioddefwr trais domestig yn cael y cymorth sydd ei angen er eu diogelwch a gall hefyd helpu i nodi cyflawnwyr cyfresol trais domestig. Yna caiff cynllun diogelwch ar gyfer pob dioddefwr ei greu.