Efallai y bydd llawer o resymau pam eich bod yn amau hyn, efallai eich bod wedi clywed synau sydd wedi eich dychryn neu efallai eich bod wedi gweld digwyddiadau neu anafiadau sydd wedi achosi amheuaeth i chi. Gall fod yn anodd iawn gwybod beth i'w wneud am y gorau yn y sefyllfa hon, yn enwedig os nad ydych yn adnabod y person yn dda. Efallai y byddwch yn teimlo'n amharod i godi eich pryderon gyda'ch cymydog, efallai y byddwch yn teimlo nad yw'n fusnes i chi, efallai y byddwch hefyd yn ofni, os byddwch yn cymryd rhan, y gallai waethygu'r sefyllfa.
Mae'n bwysig cofio y gallai eich cymydog fod mewn perygl. Os byddwch yn clywed digwyddiad ac yn meddwl bod eich cymydog ac unrhyw blant sy'n byw ar yr aelwyd mewn perygl, gallech gysylltu â'r heddlu. Os ydych yn pryderu am ddiogelwch a lles y plant, gallech ystyried cysylltu â'ch tîm Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.
Os ydych chi'n adnabod eich cymydog yn dda, gallech gynyddu cyswllt. Efallai y gwelwch, wrth i ymddiriedaeth gynyddu, y gallai eich cymydog agor mwy i chi. Yna gallwch eu hannog i geisio cymorth yn y ffyrdd a amlinellir uchod.