A yw plant yn profi trais domestig?

Bydd plant a phobl ifanc yn profi trais domestig mewn sawl ffordd a bydd pob profiad yn wahanol. Dangosodd astudiaeth gan Hughes (1992) o deuluoedd, a oedd wedi profi trais domestig, fod 90% o blant yn yr un ystafell neu'r ystafell nesaf pan oedd y trais yn digwydd. Dangosodd astudiaethau gan Leighton (1989) fod 68% o blant o deuluoedd lle'r oedd hanes o drais domestig yn dystion. Dangosodd yr Astudiaeth Dioddefwyr Cudd o 108 o famau a oedd yn mynychu canolfannau teulu'r NCH a oedd wedi profi trais domestig fod 90% o blant yn ymwybodol o'r trais, roedd 75% wedi gweld trais, roedd 10% wedi gweld trais rhywiol, roedd 99% o blant wedi gweld eu mamau'n crio neu'n gofidio o ganlyniad i'r trais a mwy na hanner y menywod (52%) dweud bod eu plant wedi gweld yr anafiadau a ddeilliodd o hynny. Dangosodd yr Astudiaeth Dioddefwyr Cudd hefyd fod mwy na chwarter (27%) o'r plant dan sylw wedi cael eu taro neu eu cam-drin yn gorfforol gan y partner treisgar.

Rhannwch y dudalen hon: