Dengys ymchwil ac ystadegau fod dynion, yn y rhan fwyaf o achosion, yn cyflawni trais domestig yn erbyn menywod. Mae trais yn y cartref yn tarddu o bŵer a rheolaeth ac mae'n gysylltiedig â materion cydraddoldeb a rhyw. Gall traddodiadau a gwerthoedd cymdeithasol sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn gyfrannu at fodolaeth safbwyntiau patriarchaidd sy'n annog dynion i gredu bod ganddynt hawl i bŵer a rheolaeth dros eu partner. Fodd bynnag, mae'n cael ei gydnabod fwyfwy y gall dynion ac yn profi trais gan bartneriaid benywaidd a thrais domestig ddigwydd hefyd mewn perthynas lesbiaidd.