WISH – Addysg a Chyflogadwyedd

Wrth wraidd ein cwricwlwm addysg, mae'r ddarpariaeth barhaus o hyfforddiant Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn parhau. Yn rhedeg drwy'r tymor, ar bob dydd Mawrth mae gennym y Rhaglen Rhyddid yn y bore a'r Pecyn Cymorth Adfer yn y prynhawn.

Mae'r Rhaglen Rhyddid yn gwrs 12 wythnos sy'n rhedeg dwy awr yr wythnos. Mae hyn yn archwilio agweddau, credoau a gweithredoedd dynion sy'n cam-drin ac ymatebion dioddefwyr a goroeswyr. Y nod yw helpu dioddefwyr i wneud synnwyr o'r hyn sydd wedi digwydd iddynt, a'i ddeall. Mae'r cwrs hefyd yn disgrifio'n fanwl sut mae plant yn cael eu heffeithio gan gael eu hamlygu i gam-drin domestig a sut mae eu bywydau'n cael eu gwella pan fydd y cam-drin yn cael ei ddileu. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, ewch i dudalen y Rhaglen Rhyddid.

Mae'r Pecyn Cymorth Adfer yn rhaglen 12 wythnos am ddwy awr yr wythnos. Nod hyn yw darparu gwybodaeth i helpu i wella o effeithiau byw gyda cham-drin domestig. Mae'n ddilyniant defnyddiol o'r Rhaglen Rhyddid ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer menywod sydd wedi gadael eu partner camdriniol. Rhaglen 'grŵp caeedig' yw hon, sy'n golygu y disgwylir i gyfranogwyr fynychu sesiynau bob wythnos a bydd atgyfeiriadau newydd yn cael eu rhoi ar y rhaglen nesaf yn awtomatig.

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau achrededig yn rhad ac am ddim, i'n defnyddwyr gwasanaeth (mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol). Maent wedi'u hachredu drwy Agored Cymru drwy'r unedau canlynol:

  • Rhyddid rhag Cam-drin Domestig (Lefel 1)
  • Deall MARAC (Lefel 2)
  • Datblygu Cydnerthedd ar ôl Cam-drin Domestig (Lefel 2)

Mae hyfforddiant arall sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth, yn cynnwys

  • Ymlacio drwy Weithgarwch Corfforol (Tai Chi neu Salsa) (Lefel 1)
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar (Lefel 1)
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar (Lefel 2- yn dod yn fuan)
  • Ysgrifennu Myfyriol (Lefel 1)
  • Gwirfoddoli ac Ymgysylltu â'r Gymuned (Lefel 2)
  • Adeiladu Tîm (Lefel 2)
  • Adeiladu Portffolio Gyrfa (Lefel 2)
  • Datblygu Hyder a Hunan-barch (Lefel 1)
  • TG (Lefel 1 a 2)
  • Celf a Chrefft (Lefel 1 a 2)
  • Aromatherapi (Lefel 1 a 2)
  • Gweithio mewn Ffordd sy'n Gyfeillgar i Gwsmeriaid (Lefel 1)
  • Cymorth Cyntaf i Blant a Babanod (Lefel 1 a 2 yn dod yn fuan)