Mae WISH yn cynnig pecynnau cymorth teilwredig i’r unigolyn er mwyn magu hyder, hunan-barch a chymhelliant, sydd yn y pen draw yn galluogi menywod i uwch-sgilio.
Mae amrywiaeth o gyrsiau ar draws nifer o feysydd ar gael i fenywod, dim ots am eu cefndir, anghenion neu allu. Man lle gall menywod cael mynediad i gyfleoedd i dyfu, mae WISH yn hyblyg, yn gyfannol ac yn ymatebol i anghenion yr unigolyn, a cheir ei chwblhau mewn partneriaeth a menywod, yn eu galluogi i ymateb i golau, dyheadau a hefyd rhwystrau.
Darperir cyfleoedd hyfforddiant gan WISH ar draws nifer o feysydd, yn achrededig (gan Agored Cymru) ac yn ddi-achrededig, yn ogystal â hyfforddiant arbenigol sector-penodol mewn meysydd trais rhywiol a domestig.
Mae’r meysydd yn cynnwys:
- Adwerthiant a Gwasanaethau Cwsmer
- Gweinyddiaeth
- Gweithio yn y Trydydd Sector
- Chwaraeon a Hamdden
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Rhyw & Cydraddoldeb
- Cyfiawnder Troseddol
- Arlwyaeth
- Treftadaeth
- Cyfryngau a TGCh
- Entrepreneuriaeth
- Busnes & Rheolaeth
- Amgylchedd